Damwain Angeuol yn Chwarel yr Eifl.

Cyfarfu Mr R. H. Wi!Hams, Green Terrace, Trefor, a damwain angeuol yn Chwarel yr Eifl, brydnawn Mercher diweddaf.

Torodd gwagen yn rhydd ar yr incline, a neidiodd carreg ohoni gan daro Williams yn ei ben. Bu farw yn y fan. Cafodd amryw eraill hefyd eu hanafu.

Dyn di-briod 26 mlwydd oed oedd y trancedig.

Yr Udgorn 05/02/1913