MARW.
Yn gynar fore Sadwrn, yr 20fed cyfisol, ar ôl cystudd maith a blin, cafodd Wmffra Jones, mab Mr. a Mrs. Morris Jones, River Terrace, ollyngdod, ac efe ond 22ain mlwydd oed.Cleddir ei weddillion ym mynwent Capel Uchaf, Clynnog, ddydd lau, y 25ain.
Y Genedl Gymreig 30/06/1914
GWYWO'N IEUANC.
Gofidus genym gofnodi marwolaeth y cyfaill ieuanc diymhongar Humphrey Jones, mab Mr a Mrs Morris Jones, River Terrace, yr hyn a gymerodd le fore Sadwrn, yr 20fed cyfisol, yn 22ain mlwydd oed.Claddwyd ei weddillion yn mynwent Capel Uchaf, Clynnog, y dydd lau dilynol.
Cafodd gladdedigaeth barchus a phoblogaidd.