CARNGUWCH PRIODAS.
Dydd Sadwrn, Awst 31, yn eglwys Llanddeiniolen, gan y Parch. Morgan Jones, rheithor, priodwyd Mr. Owen Jones, 6, River Terrace, Trevor, Llanaelhaiarn a Miss Elizabeth Ann Roberts, unig ferch Mr. Roberts a'r ddiweddar Mrs. Roberts, Tyn-y-mynvdd, Carnguwch.Rhoddwyd y ferch ymaith gan ei thad ac yn absenoldeb brawd y briodferch gwasanaethwyd ar y priodfab gan Mr. John Williams, Rhyd y Fuwch, Llanddeiniolen, ac ar y briodasferch gan Mr. Williams, Ty'r Ysgol, Llanddeiniolen. a Mrs. Williams, Ebenezer.
Boed iddynt hir oes a bywyd cysurus.