MARWOLAETH.

Ddydd Mawrth, Ebrill 21ain ar ôl dioddef cystudd maith yn hynod o dawel cafodd Mrs. Margaret A. Davies, priod Mr. William Davies, New Street, ollyngdod, yr hyn a hiraethai am dano er pan ddeallodd nad oedd meddyginiaeth iddi yr ochr hon i'r bedd.

Gadawa yr ymadawedig briod a theulu lluosog i alaru ar ei hol.

Cleddir hi yn mynwent Llanaelhaiarn, ddydd Sadwrn, 25ain. Cydymdeimlwn â'r teulu yn eu profedigaeth.

Y Genedl Gymreig 28/04/1914