Damwain Angeuol yn Chwarel yr Eifl.
Cyfarfu Mr R. H. Williams, Green Terrace, Trefor, a damwain angeuol yn Chwarel yr Eifl, brydnawn Mercher diweddaf.Torodd gwagen yn rhydd ar yr incline a neidiodd carreg. ohoni gan daro Williams yn ei ben. Bu farw yn y fan. Cafodd amryw eraill eu hanafu.
Dyn dibriod 26 mlwydd oed oedd y trancedig.