Helynt y Gasgen Olew.
Yn Ynadlys Pwllheli, dydd Mercher, cyhuddai Isaac Jones, Eifl Road, Trefor, ei gymydog, Robert Thomas Hughes, Eifl Road, o ymosod arno.Eglurodd Mr. W. Cradoc Davies, ar ran yr achwynydd fod yr helynt wedi codi mewn canlyniad i gasgen olew a gafwyd o'r mor. Yr oedd yr achwynydd a chyfaill arall wedi gweled y gasgen yn y mor, ac wedi cael cymorth y diffynydd i'w thynu i'r lan. Yna bu i'r diffynydd hawlio yr arian am ddarganfod y gasgen yn ogystal a 4s a gafwyd am y gasgen. Pan aeth yr achwynydd at y diffynydd i ofyn am ran o'r ysbail bu iddo ei daraw yn ei wyneb. Cadarnhawyd yr uchod gan yr achwynydd.
Yn ateb i Mr. William George, yr hwn a ymddangosai ar ran y diffynydd, dywedai nad oedd mewn tymer uchel y noson dan sylw. Gwelodd y diffynydd mewn shop chips. Ni bu iddo ei rwystro i fyned adref o gwbl. Tystiodd William Lewis ei fod yn gweld yr helynt. Gwelodd y diffynydd yn taro yr achwynydd yn ei wyneb.
Tystiodd David Owen Evans ei fod wedi clywed y diffynydd yn dweyd yn shop yr eilliwr pe buasai yn gwybod ei fod i gael ei wysio y buasai wedi rhoddi coblyn o gweir iddo (chwerthin).
Dywedodd Mr. William George ar ran y diffynydd fod yr achwynydd wedi galw yn herfeiddiol arno o'r shop ac na chai lonydd ganddo.
Tystiodd y diffynydd ei fod wedi gofyn i'r achwynydd fyned adref, ond gwrthododd, ac yna tarawodd ef a'i law agored er ei yru o'r ffordd. Bu i'r achwynydd ddweyd wrtho y costiai hyny geiniog a dima iddo.
Tystiodd W. Bott i'r achwynydd ddod i'r shop mewn tymer bur uchel gan arfer iaith pur anweddus.
Bu i'r fainc ddirwyo y diffynydd 5s. yn cynwys y costau.