EI LETHU I FARWOLAETH.

Dydd Iau diweddaf, fel yr oedd Mr. William Williams, Sea View Terrace, Trefor. yn dilyn ei orchwyl yn Chwarel yr Eifl syrthiodd darn o graig ar ei gefn gan ei wasgu i farwolaeth.

Ymddengys ei fod wedi saethu rhan o'r graig yn y boreu a'i fod yn ceisio rhoddi pylor yr ail dro yn y lle, a phan oedd wrth y gorchwyl hwnw llithrodd y plygion ar ei gefn.

Efe oedd y chwarelwr hynaf yn y chwarel. Yr oedd yn 72ain mlwydd oed, ac wedi gweithio tua 50am mlynedd yn y chwarel.

Yr Udgorn 03/06/1914


Llys y Man Ddyledion Pwllheli.

Gorffenaf 7fed - Gerbron y Barnwr William Evans.

IAWNDALIAD.

Gwneid cais ar ran gweddw, merch ac wŷr y diweddar William Williams, creigiwr o Drefor, yr hwn gyfarfu a damwain angeuol yn y chwarel, am i'r swm o 228p. 2 o iawndal ganiatawyd gael ei dalu iddynt yn randaliadau.

Gwnaed archeb am i 20p gael eu talu ar unwaith, a'r gweddill yn ôl 3p. y mis.

Yr Udgorn 15/07/1914