MARW.
Unwaith yn rhagor wele angeu wedi dyfod yn ei rwysg i fylchu yr ardal hon, trwy fyned a thad tirion o'n plith, Mr Evan Hughes Llwynybrig, ac efe wedi cyrhaedd yr oedran teg o 77 mlwydd oed.Cystudd byr ond caled ddaeih i'w ran ef, ond dioddefodd y cyfan yn dawel, a chafodd huno yn dangnefeddus iawn nawn Llun, 18fed.
Yr oedd yn fardd gwych ac wedi enill mewn amryw gystadleuaethau. Yr oedd hefyd yn un o golofnau Ymneillduaeth yn yr ardal hon.
Gadawa bedwar o feibion a theulu lluosog i alaru ar ei ôl. Claddwyd ef yn mynwent Llanaelhaiarn dydd Iau yr 21ain.