Llys Ynadol Pwllheli.
Ddydd Mercher, Medi 23ain.Gerbron y Cyrnol Lloyd Evans; Wm. Anthony, Ysw.; G. Hughes Roberts, Ysw.; William Thomas, Ysw.; Dr. R. Jones Evans; Dr Gwenogtryn Evans; W. W. Griffith, Ysw., a J. Hughes Parry, Ysw.Achos o Drefor.
Cyhuddid Ann Owen, dynes briod o Drefor, gan Griffith Roberts, o'r un lle, o fod wedi ymosod arno. Dywedai'r achwynydd i'r diffynyddes ei daro yn ei ben gyda phiser nes oedd ei waed yn llifo.Tystiwyd gan yr Heddwas Evans iddo gael ei alw i'r lle, ac y canfu yr achwynydd gydag archoll ddofn yn ei ben, a'i waed yn llifo.
Dywedai'r ddiffynyddes mai Roberts ymosododd arni hi, ac na wnaeth ond amddiffyn ei hun. Wrth rwymo'r ddiffynyddes i gadw'r heddwch, sylwodd y cadeirydd y credai ef y dylid anfon merched Trefor i ymladd yn erbyn y Germaniaid yn lle y dynion.
Gorfuwyd i'r ddiffynyddes hefyd dalu'r costau.