MYNED I WLAD Y GORLLEWIN.
Deallwn fod Miss Mabel Roberts, School House, yn benderfynol o fyned i Wlad y Gorllewin.Chwith iawn gan rieni plant ac eraill ddeall ei bod yn gadael, bu yn athrawes fedrus am flynyddau yn Ysgol y Cynghor yn Llanhaiarn, ac hefyd yn Nhrefor am tua blwyddyn, os nad rhagor. Yr oedd ganddi ddawn neillduol i gyfranu addysg.
Dymunwn iddi bob llwyddiant.