YNADLYS PWLLHELI.

Cynhaliwyd ddydd Mercher, gerbron, Mri. C. H. Lloyd Edwards (cadeirydd), William Thomas a Griffith Evans.

Datganodd y Cadeirydd gydymdeimlad y fainc รข Mr. C. H. Lloyd, Trallwm, ar farwolaeth ei briod, ac a Mr. Arthen O. Owen (clerc) ar farwolaeth ei chwaer. Ymunai Mr. W. Cradoc Davies ar ran y cyfreithwyr a'r Arolygydd Owen ar ran yr heddlu yn y penderfyniad.

CADW PYLOR DAN YR EGLWYS.

Cyhuddai'r Heddwas Roberts, Llanaelhaiarn, Wm. Fred Gaffer, Llanaelhaiarn, dan Ddeddf y Ffrwydron.

Dywedodd yr heddwas iddo, mewn canlyniad i ddamwain a ddigwyddodd i fachgenyn, gael allan fod gan y plant gaps yn chwarae a hwy, a hefy dynamite. Cafwyd hwy yn y seler sydd o dan yr eglwys. Gwnaeth ymchwiliad a chafodd 12 pelen o dynamite a naw o caps yn y pobty sydd ynglyn a pheiriannau twymo'r eglwys yn y seler tan yr eglwys.

Cedwid hwy yno gan y diffynydd, yr hwn sydd yn dorwr beddau, a defnyddiai hwy i'r pwrpas o dorri beddau.

Y Cadeirydd : Lle rhyfedd iawn i gadw elfennau ffrwydrol fel hyn.

Y Clerc : Ie, gallasent chwythu'r eglwys i ffwrdd (chwerthin).

Rhoed dirwy o 10s. ac archwyd iddo beidio a chadw pylor ffrwydrol dan yr eglwys eto.

Yr Herald Gymraeg 26/08/1919