LLINELLAU COFFADWRIAETHOL.
Am y diweddar Robert Evans, Bryn Glas, mab i Mr. a. Mrs. J. Evans, Bryn Glas. Bu farw o'r pneumonia, a chladdwyd ym mynwent Capel Helyg, Tachwedd 4ydd. 1918, ac efe ond 18 mlwydd oed : -Byr fu dy daith fy nghyfaill mwyn,
Yng nghanol temtasiynau,
Ti gefnaist ar y cyfan oll
Gan adael y gwael bethau.
Rhyfeloedd gwaedlyd yma sydd -
A thithau uwch pob gofid.
Yn canu'r anthem heb ddim trai
Tu draw, yng nghanol Gwynfyd.
Dy rodiad glan, dy fywyd gwyn,
Fu'n addurn i'r gymdogaeth,
Esiampl roddaist ti cyn hyn
I'r cyndyn gael gwybodaeth.
Mae ôl dy droed yn llwybr gwyn
Try'r dagrau'n llyn wrth feddwl
Fod eglwys "Babel" heddyw'n wag
O'th le, - mor ddu yw'r cwmwl.
Nis gallai finnau heddyw'n awr,
Ond edrych ar dy feddrod
Lle 'r wyt yn dawel, huno'th hun
Rwy'n dweyd, "rwyf finnau'n dyfod."
Dy deulu mwyn a ddont ryw ddydd
I blanu blodyn prydferth
Er cof am danat, Robert gu,
Mae'r cariad cu yn anferth.
J. R. THOMAS (Glan Islwyn). Llangybi.
Yr Herald Gymraeg 19/11/1918
ER COF.
Er Cof am Robert Evans, Bryn Glas, Llanaelhaiarn, yr hwn a hunodd foreu Mercher, Hydref 30, 1918. Er wedi mynd, nid yn angof, gan ei dad, a'i fam, brodyr, a'i chwiorydd.O, Robert gu, mae blwyddyn wedi mynd,
Cofio'th addfwynder yn hir, a wnaf fi.
Rhoddaist i'm gusan, a rhoddaist i'm wen,
Gadewaist dy geraint, - O blentvn cu.
EI FAM.