MARW YN IEUANC.

Drwg genym orfod cofnodi mawolaeth sydyn y brawd ieuanc rinweddol Mr Hugh Hughes, Caeglas, yn 28 mlwydd oed. Bu farw yn sydyn iawn nos Fawrth ar ôl dau ddiwrnod o gystydd. Yr oedd yn y capel foreu a phrydnawn Sul ond nid oedd yn teimlo yn dda iawn yn yr hwyr. Felly cafodd ei luddias i fod yn bresenol yn oedfa'r hwyr.

Fore Llun tarawyd ef mor wael fel na allodd ddweyd yr un gair wedyn. Er iddo gael gorau meddygon a goreu teulu a chyfeillion, ehedodd ei yspryd pur at Dduw. "Ei haul a fachludodd a hi eto yb ddydd."

Yr oedd Hugh Hughes yn gymeriad prydferth, yn un a berchid gan bawb. "Gair da iddo gan bawb a chan y gwirionedd." Yr weddy yn gymydog nid mewn enw ond mewn actau, parod bob amser i wneyd cymwynas. Llanwodd ei oes fer a daioni. Yr oedd yn aelod ffydidlon, selog, a gweithgar yn eglwys y Babell., M.C.. er pan yn fachgen ieuanc iawn. Teimlai ddyddordeb neilltuol yn achos y Gwaredwr - yr oedd yn athraw ffyddlon ac ymdrechgar yn yr ysgol Sul. Bydd colled fawr ar ei ôl yn y gymydogaeth, yn y teulu ac yn yr eglwys.

Ond credwn y bydd ei enw ef yn fwy. "A bod gyda Crist, canys llawer iawn gwell ydyw:"

Claddwyd yr hyn oedd farwol ohono brydnawn Sadwrn yn mynwent, Eglwys y Plwyf yn nghanol arwyddion o barch mawr. Gwasanaethwyd ar yr achlysur prudaidd gan y Parch J. Phillips, (B) Saron, Llanaelhaiarn, Sidney Morris, Llithfaen; a Egbert Jones, Rhosfawr. Gwelsom hefyd y Parch Wm. Davies Trefor, yn bresenol wrth y tŷ. Yr oedd ef yn gorfod mynd i ffwrdd at ei gyhoeddiad, neu buasem wedi cael gair ganddo.

Tyner ac effeithiol oedd y gwasanaeth crefyddol trwyddo. Hawdd oedd deall dydd ei angladd ei fod yn anwyl a pharchus drwy yr holl gvlch gan fyd ac eglwys. Bernir fod dros ddau gant yn bresenol ar lan ei fedd a deigryn distaw yn rhedeg ar rudd y rhan fwyaf ohonynt. Duw pob gras a noddo ei fam, y tri brawd, a'i ddwy chwaer yn nghyda'r perthynasau oll yn eu galar dwfn, ar ôl un oedd mor anwyl ganddynt.

Teg yw nodi i deulu parchus Uwchlawrffynon roddi blodendorch werthfawr ar fan fechan ei fedd, ac hefyd Cymdeithas Lenyddol Pobl Ieuainc, Babell a'r hon yr oedd yr ymadawedig yn aelod ffyddllon a defnyddiol.

Yr Herald Gymraeg 20/06/1916