WEDI COLLI EI OLYGON.

Yr wythnos cyn y diweddaf aeth ein cyfaill distaw Mr. Edward Lloyd, Erw Sant Row, sydd wedi colli ei olygon i raddau helaeth i Ysbyty y Llygad a'r Glust yn Lerpwl. Deallwn ei fod wedi dal y driniaeth lawfeddygol cyn gystal ag y gellid ddisgwyl. Hyderwn y gwelir yr hwn Lloyd, fel yr adnabyddir ef genym, yn alluog i ddilyn ei alwedigaeth yng ngwaith setts Chwarel yr Eifl a hynny'n fuan.

Herald Gymraeg 31/03/1914