MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH.

Chwith genym orfod cofnodi marwolaeth sydyn Mr. Henry Thomas, Ceiri Terrace, neu, fel yr adnabyddid ef yn gyffredin, Harri Tomos, Cwm. Bu farw nos Fercher, Awst 2il, yn 41 mlwydd oed, wedi ond pedwar diwrnod o gystudd caled.

Cafodd fanteision addysg uwch na'r cyffredin. Bu yn Ysgol Ramadegol Bottwnog, a gwnaeth ddefnydd da o'i fanteision. Cyfrifid ef yn ysgolor da, ac yn Sais medrus. Ond gorfu iddo adael hyd addysg oherwydd nad oedd o gyfansoddiad cryf a myned i weithio i'r awyr agored.

Yr oedd yn gymydog tawel ni chlywid ei swn. Yr oedd yn ddyn ieuanc bucheddol iawn; cyfrifid ef gan bawb yn gymeriad geirwir, gonest a sobr-hollol ddiragrith. Yr oedd yn cashau rhagrith a'i holl galon.

O ran ei ddaliadau crefyddol Bedyddiwr cadarn a goleuedig ydoedd. Teimlai ddyddordeb mawr yn yr Ysgol Sul ni fyddai ei le byth yn wag yno. Bydd colled ar ei ôl yn yr ardal, yn yr Ysgol Sul, ac yn neillduol yn y teulu.

Claddwyd ei weddillion marwol prydnawn Llun, Awst 7fed, yn mynwent Eglwys y Plwyf, yn nghanol arwyddion o barch mawr. Gwasanaethwyd gan y Parchn. J. Phillips (B ), Saron, a Thomas Jones, y Rheithor. Gwelsom yn bresenol yn mhlith y dyrfa y Parchn. W. Davies, Trefor, J. Griffiths, Llanfairlechan, Dr. Rowlands, Mri. Rowland Rowlands, Yr Eifl, R. O. Roberts, Cwmcoryn, ynghyd ag amryw eraill.

Dymunwn wenau Duw yn helaeth i'r teulu oll yn eu galar. Heddwch i'w lwch.

Yr Udgorn 16/08/1916