MARW GWR ADNABYDDUS.

Foreu Iau diweddaf bu farw Mr. Robert Evans, Glanllyn, Llanaelhaiarn, yn ei 77 mlwydd oed.

Yr oedd Mr. Evans yn adnabyddus iawn trwy siroedd Arfon, Mon a Meirion, fel masnachydd gwartheg, ac y mae ei wartheg duon wedi gwneyd enw iddynt eu hunain yn marchnadoedd Lloegr.

Brodor o Roewen ydoedd, ond daeth i'r ardal hon pan yn 17eg oed i weithio yn y gwaith setts. Rhoddodd y chwarel i fyny er ymgymeryd a busnes cigydd, a bu yn gweithredu fel masnachydd gwartheg am gyfnod o 50 mlynedd.

Er nad oedd yn swyddog eglwysig cymerai ddyddordeb mawr yn yr achos yn y Babell. Yr oedd yn un o sylfaenwyr yr achos, a bu yn ffyddlon iawn iddo o ran ei bresenoldeb a'i gyfraniadau i'r diwedd.

Gedy weddw a phump o blant i alaru ar ei ôl. Ei feibion ydynt Mri. Owen R. Evans, William Evans a Robert Evans, Llanaelhaiarn. Mae y ddwy ferch wedi priodi ac yn preswylio yn Trefor. Cymerodd yr angladd le ddoe (preifat) yn Llanaelhaiarn.

Yr Herald Gymraeg 15/06/1915



MARW GWR ADNABYDDUS.

Yn sydyn iawn fore Iau diweddaf bu farw Mr. Robert Evans, y porthmon adnabyddus, ac efe yn ddwy ar bymtheg a thrigain mlwydd oed.

Yr oedd yn adnabyddus iawn fel porthmon gwartheg drwy Ogledd Cymru a rhanau helaeth o Loegr.

Bu'n cario'r busnes ymlaen am haner can mlynedd.

Gedy o'i ôl dri o feibion. Brawd i'r ymadawedig yw Mr. William Evans, Liverpool House, Llithfaen.

Yr Udgorn 16/06/1915



OBITUARY.

Mr Robert Evans, cattle dealer, Llanaelhaiarn, who was 77 years of age, died very suddenly yesterday week.

For over fifty years he carried, on business as a cattle dealer and was well known throughout North and South Wales. In his younger years he used to walk cattle to Birmingham, London, Bradford and other places, and would be on the road for a week or more during one journey alone.

North Wales Chronicle 18/06/1915