MARWOLAETH CHWAER BARCHUS.

Nos Iau, Hydref 21ain, bu farw yr hen chwaer barchus, Mrs Ellen Owen, Rhydyberw, gynt o Bryngadfan, yn 81 mlwydd oed. Yr oedd yn aelod hardd o Eglwys y Babell ,(M.C.). Nodweddion amlwg yn ei chymeriad oeddynt tynerwch, caredigrwydd. geirwiredd a gonestrwydd.

Claddwyd ei gweddiliion yn enw Duw yn mhlwyf Llanhaiarn brydnawn dydd Mawrth. Gwasanaethwyd yn y tŷ gan y Parch William Lewis Jones, ei gweinidog, ac yn yr eglwys ac ar lan y bedd gan y Parch Thomas Jones (rheithor). Gwelsom yn bresenol yn mhlith y dyrfa, Dr. Rowlands, Brynmeddyg; Mr R. O. Roberts, C.C., Cwmcoryn; Parch J Phillips (B.); Mrs Rowlands, priod Mr. Rowlands, rheolwr Chwarel Setts yr Eifl.

Cafodd gladdedigaeth neillduol o barchus.

Yr Herald Gymraeg 02/11/1915