MARWOLAETH GWRAIG PARCHUS.

Drwg genym gofnodi marwolaeth Mrs Dorothy Thomas, Glanrhyd. Bu farw nos Sadwrn, Gorphenaf 21ain, yn 83 mlwydd oed, ar ôl ychydig ddyddiau o gystudd.

Yr oedd yn aelod ffyddlon a disglaer yn eglwys Saron (B.) am dros drigain mlynedd. Teimlai ddyddordeb mawr yn achos Iesu Grist.

Mab iddi oedd y diweddar Barch. Robert Thomas, Llangyndeyrn, Sir Gaerfyrddin, ac y mae y mab arall, y Parch. David Thomas, yn offeiriad yn Corris. Claddwyd hi ddydd Iau yn mynwent Llanaelhaiarn. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parchn. John Phillips, Saron; William Lewis Jones, Babell; W. Trefor Jones, Llanelli a Thomas Jones, y Rheithor.

Heddwch i'w llwch hyd fore y codi.

Yr Udgorn 15/08/1917