SPOKANE WASHINGTON.

Marwolaeth Griffith H. Jones.
Gan Gwilym Ddu o Went.

Yr oedd Griffith H. Jones yn enedigol o Chwilog, ger Pwllheli, sir Gaernarfon, yn fab i Morris ac Anne Jones, ac arferent gadw y Madryn Arms Hotel yn y lle hwnw, ond a fuont feirw flynyddau yn ôl. Mae i'r ymadawedig chwaer yn weddw yn cadw hotel yn bresenol yn Sarn, ger Pwllheli. Yr oedd Yolen yn deall fod iddo chwaer yn byw yn Pittsburg, Pa., ond nid oedd yn gwybod ei henw na'i chyfeiriad.

Ymfudodd Griff i'r wlad hon tua pedair blynedd yn ôl. Bu yn gweithio i Yolen ar y fferm yn Tyler, Wash., am rai misoedd, ac hefyd i Mr. Griffith Hughes yn y Big Bend. Daeth i lawr yma o Canada yr haf diweddaf, a bu am ysbaid o amser dan law Dr. G. Roberts yn Spokane. Aeth i ysbyty yn Spangle ar yr 16fed o fis Tachwedd diweddaf, ac yno y bu farw brydnawn Mawrth, 30ain o Ionawr, yn 38 oed. Ei afiechyd oedd y bright disease, yn nghyd a dolur y galon.

Pan glywodd Yolen Williams nos Lun am ei salwch aeth yno foreu Mawrth gyda'r tren c-yntaf i'w weled, gan feddwl y gallai fod o gymorth iddo, ond yr oedd wedi myned yn rhy bell i donau'r afon i'r un law dynol allu bod yn gymorth iddo, ac er ei fod wedi bod yn anymwybodol am lawer o amser, agorodd ei lygaid pan welodd Mr. Williams yn sefyll wrth erchwyn ei wely, cliriodd ei feddwl a chafodd weledigaeth glir am ryw fynyd neu ddau a dangosodd yn amlwg ei fod yn ei adwaen trwy ogwyddo ei ben ato ac estyn ei law i ysgwyd llaw â Yolen.

Rhedai y dagrau dros ei ruddiau, a symudai ei wefusau mewn ymdrech i siarad. ond yr oedd ei dafod wedi glynu wrth daflod ei enau. Collodd ei ymwybyddiaeth yn fuan a bu yn y sefyllfa hono hyd y diwedd. Cafodd bob gofal a charedigrwydd oddiar law y rhai a ofalent am dano yn yr ysbyty.

Dygwyd ei gorff i Spokane, pryd y cynaliwyd gwasanaeth yn nghapel Burnbull, yr undertaker, a'r Parch. R. O. Williams, ein gweinidog, yn siarad yn ddwys gyda gosod o'n blaen hanes y Cyfaill a lyn yn ngwyneb pob amgylchiad o unigrwydd a ddichon ein cyfarfod. Cafodd angladd anrhydeddus. Rhoddwyd y blodau hardd oedd ar yr arch gan Ladies Aid yr eglwys Gymreig, a Mr. a Mrs. Wm. L. Jones.

Yr archgludwyr oedd Richard Thomas, Thomas Morris, Lewis Williams, Wm. L. Jones, o Spokane; a Griffith Hughes, No. 1, a Griffith Hughes, No. 2. o'r Big Bend. Awd a'i gorff Chwefror y cyntaf i'w gladdu i Greenwood Cemetery. Dymunir ar i bapyrau Cymru godi yr hanes er mwyn y p-erthynasau a'i gyfeillion.

Drych 15/03/1917