MARW.
Bore Sabboth o'r blaen, wedi cystudd maith a chaled, bu farw Mrs. Anne Pritchard priod Mr. John Pritchard, Penarth fawr, Llanarmon.Gwraig dawel, siriol a dirodras ydoedd, yn garedig tuhwnt ac yn hynod o boblogaidd yn yr holl ardal. Bu'n ffyddlon a haelionus i'r eglwys yn Bryn bachau, lle yr oedd yn aelod o'i mebyd, ac yr oedd yr achos yn agos iawn at ei chalon. Gweithiodd yn galed ar hyd ei hoes, ac edrychid ati fel ffermwraig ragorol.
Cydymdeimlwn a'i phriod a'r perthynasau oll yn eu profedigaeth.