MARW.
Yn ddiwddar, bu farw'r chwaer, Mrs Pritchard. annwyl briod Mr. Robert Pritchard, Penygraig, a hi yn 80 mlwydd oed.Treuliodd ei hoes faith yn ddiwvd a gweithgar, ac yn wyneb lawen. Ymddygai yn foneddigaidd, parchai bawb a pherchid hi gan bawb. Meddai ar gymeriad glan a phur, ac yr oedd yn boblogaidd tuhwnt yn yr holl ardal fel chwaer hynod o garedig, syml a dirodres gyda phawb.
Yr oedd yn aelod o Eglwys Ebenezer, M.C., a bu'n ffyddlon iawn tra caniataodd ei hiechyd. Bu hefyd yn haelionus iawn at yr achos.
Cydymdeimlir yn fawr a'i phriod yn ei brofedigaeth llem. Claddwyd yn Chwilog.
Gwasanaethwyd gan y Parch W. Jones, M.A. Yr oedd yn bresennol yn yr angladd Mri. R. J. Williams, Caernarfon; J. G. Owens, Caernarfon; Henry Evans, Felin Llecheiddior; Richard Morris, Ty Cerryg; R. W. Jones, Gesail; John Thomas, Parciau; William Pritchard, Hendre-bach; H. J. Williams (Plenydd); Ellis H. Jones, Penarth Uchaf; Humphrey Lewis, Brynpenrhyn; Thomas Pritchard, Lletywyn; G. R. Pritchard, eto; T. Hughes, eto. gyda Henry Roberts, Ty Newydd.