MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH.

Dydd Sadwrn, lonawr 5ed, wedi byr gystydd, bu farw Mr. Griffith Roberts, Lleiniau, ac efe yn 78 mlwydd oed.

Bu am flynyddau yn ddiacon ffyddlon yn Eglwys Salem (A.), ac hefyd yn ofalwr am y cyhoeddiadau Sabhothol. Yr oedd yn feddianol ar feddwl eang, ac yn gymeriad tawel, ac yn barod bob amser i wneud cymwynes. Yr oedd hefyd yn hynod am ei haelioni at bob achos da, ac yn fawr ei barch gan bawb a'i hadwaenai. Teimlir colled fawr ar ei ôl yn y cylch yr oedd yn troi ynddo.

Rhoddwyd ei weddillion i orffwys yn mynwent Chwilog, lonawr 11eg.

Cydymdeimlir a'r teulu oll, yn eu profedigaeth.

Yr Udgorn 17/01/1917