ANGLADD.
Ddydd Iau, yn mynwent anenwadol Chwilog, claddwyd gweddillion Mrs. Ellen Roberts, priod Mr. Griffith Roberts, Lleiniau, yr hon fu farw y Sul blaenorol yn ei 75 mlwydd oed.Y mae Mr. Roberts yn ddiacon ac ysgrifenydd ffyddlon i eglwys Salem (A.), Fourcrosses. a chydymdeimlir ag ef a'r teulu yn fawr.
Gwasanaethwyd gan y Parch Hugh Davies, Abererch. Y mae Mr. Henry Roberts, Tŷ Newydd, Arolygydd Iechydol Cyngor Lleyn, yn fab iddi a Mrs. Pritchard, Lletywyn, yn ferch.
Yr oedd yn bresenol yn yr angladd, heblaw ei phriod a'r mab, Mri. Thomas Pritchard, G. R. Pritchard, Daniel Evans, Evan Evans, Robert Pritchard. Daniel Evans, Evan Evans, Robert Pritchard, Humphrey Lewis, Griffith Jones, Robert Jones, Master Tommy Hughes, Mair Ruthydd Roberts,. Mri Owen Jones, Plas; a Griffith Griffith, Penybont.