DAMWAIN ANGEUOL.
Boreu Sadwrn, y 4ydd cyfisol, brawychwyd yr ardal gan y newydd trist am ddamwain a drodd yn angeuol i Mr Griffith Williams, mab ieuengaf Mr a Mrs David Williams. Factory, Plasdu, ac efe yn 31 mlwydd oed.Hysbyswyd ei fod wedi ei gladdu yn New York. Cychwynodd ei yrfa fel gof, ac ymberffeithiodd yn gyflym, ac yr oedd ers rhai blynyddau yn dal swydd bwysig fel peirianydd ar agerlong. Yn ystod y rhyfel bu mewn amryw o ysgarmesoedd celyd gyda suddlongau'r gelyn, ond cafodd ddihanfa bob tro.
Bachgen gwylaidd, dymunol a chreffyddol ydoedd, yn meddu ar natur dyner, a phob amser a gwen ar ei wyneb, a charedigrwydd lond ei galon. Yr oedd iddo liaws mawr o gyfeillion yn yr ardal, y rhai sy'n teimlo'n chwith iawn o'i golli.
Yr oedd yn aelod ffyddlon yn Ebenezer M.C. ac ar amryw achlysuron bu'n haelionus iawn at yr achos.
Cydymdeimlir yn y modd dyfnaf a'r teulu trallodedig yn eu dwfn alar. Huned mewn hedd.