HUNO HENAFWRAIG.

Dydd Mawrth, yn enw Duw yng Nghapel Helyg, rhoddwyd i orphwys dabernacl daearol un o wragedd a mamau anrhydeddusaf ein bro, a hi bron a chyrhaedd ei phedwar ugain mlwydd. sef Mary Jones, Ty Newydd, Plas Du.

Angladd o nifer bychan o berthynasau a chyfeillion fu iddi yr hyn oedd yn hynod nodweddiadol o'i hanian a'i bywyd gwylaidd a doeth. Gwasanaethai ar yr amgylchiad y Parch T. Williams, Capel Helyg.

O'r pryd y collodd ei phriod, Capten Jones, a'i dau fab, ym medd yr eigion, dangosodd, er hyny, y meddai wybodaeth am, a ffydd yn Llywodraethwr y cread, ac amgylchiadau dyn. Dywedai yn ei hymorphwysiad tawel ar y Cadarn, fel y bardd,

"Fod Cariad Hollalluog wrth y rhwyfau,
A Chariad Hollwybodol wrth y llyw."

Methodist ydoedd, ac yn aelod meddylgar, darllengar, a duwiolfrydig, o eglwys Pencae Newydd. Un o'i hynafiaid hi, Francis Ifan, Cae'r Tyddyn, ei lle genedigol, fu'n foddion troedigaeth y gwr hysbys a duwiol, wedi hyny, William Pritchard, Glasfryn Fawr, yr hwn wnaeth gymaint dros achos ei Waredwr yn Eifionydd, ac ym Môn. wedi hyny. Gelwir ef yn "Apostol Ymneillduaeth ym Môn. Ac yr oedd Mrs. Jones yn gorphoriad teilwng o ysbryd a bywyd goreu ei hynafiaid crefyddol yn y fro.

Yr oedd hefyd, o du ei mam, yn hanu o gyff yr enwog Syr John Owen, y Clemenau. Ac nid oedd craffter neilltuol yn eisieu i ganfod bonedd ac arbenigrwydd y cyfryw wehelyth yn ei dull personol a meddylgar hi. Yr oedd ei medr a'i chwilfrydedd mewn "hel achau," neu ei holrhain yn hytrach, yn ei gosod yn rheng y dosbarth prin hwnw.

Cyfunai Mrs. Jones, ynddi ei hun, yr hyn wnai gymeriad yn gymeriad cyflawn mewn goleun, meddwl, a daioni bywyd.

Ein Mair ddoeth ddigymar, dda-
Enwog fel Mair Bethania,
Y bydd hi; nid bedd a'i wanc,
Bair wywo ei bri ieuanc.

Diau, o'i bedd, clod di-baid,
Wel ei nefol hynafiaid;
A'i thalaith uwch dylaith dwys,
Geir dan wrid pridd Paradwys.

Herald Gymraeg 16/02/1915