CLADDEDIGAETH.

Dydd Mawrth. claddwyd gweddillion Mrs. Catherine E. Griffith (42 mlynedd oed) priod Mr. T. J. Griffith, Plasdu, a merch i Mr. a Mrs Thomas Hughes Nanney Place, ym Mynwent Llanarmon.

Gwasanaethwyd wrth y tŷ gan y Parchn. W Jones, M.A., Fourcrosses, a J. Rhydderch, Pwllheli, yn yr Eglwvs ac ar lan y bedd gan Parch. J. Davies (Isfryn), Rheithor, LIanarmon. Chwareuwyd y Dead March yn yr Eglwys gan Mrs. Enid Owen, Rheithordy. Anghyhoedd oedd yr angladd.

Prif alarwyr oeddynt Mr. T. J. Griffith (priod); Gwilym R. Griffith (mab); Mr. a Mrs. T. Hughes Pwllheli (rhieni); Miss Hughes (chwaer) Mr. a Mrs Hughes, Monachdy, Sarn (brawd); Mr. a Mrs. Hughes, Brynarlais (chwaer-yng-nghyfraith); Nurse Griffith, Llysfaen (chwaer- yng-nghyfraith); Mrs. Woolford, Ffestiniog, Miss Parry, Dinas, Mrs. Jones, Pwllheli (cyfnitherod) Mri. G. Williams, Machynlleth; W. Thomas, Penygroes; R. Jones. Porthmadog (cefndryd); Mr. O. Williams, Tyddyn Bach, Ceidio (ewythr); ac amryw eraill.

Yr oedd trefniadau yr angladd yn llaw Mr. J. Pierce Pencaenewydd.

Cydymdeimlir a'i phriod a'r plentyn bach a'r teulu oll yn eu haml brofedigaethau.

Yr Herald Gymraeg 08/07/1919


CHWILOG ER COF.

Annwyl am Mrs. Griffiths, annwyl briod Mr. T. J. Griffiths, Plas Du, Chwilog, yr hon a hunodd yn yr Iesu, Mehefin 20, 1919, yn 42 mlwydd oed.

Un dda'i gweithredoedd ydoedd, darbodol,
I'w gŵr yn addurn, un gu, rinweddol;
Gyrfa o garu yr Iesu grasol
Oedd gyrfa'i heinioes, hardd, gywir, fanol
Ow'n rhy gynnar, o ganol—ei bywyd
Gwywo i'r gweryd wnai'r wraig ragorol.

J. R. JONES (Gerallt). Maentwrog.

Yr Herald Gymraeg 30/09/1919