DAMWAIN.

Nos Wener, cyfarfyddodd Mr. Pierce Jones, Masnachwr Peinanau Amaethyddol, Pwllheli; Chwilog a Chaernarfon, a damwain ddifrifol gyda'i 'Motor Cycle,' ar ffordd Llanarmon.

Ymddengys ei fod yn dychwelyd gartref, pryd yr aeth i wrthdarawiad a 'Motor Traction,' taflwyd ef i lawr, torodd esgyrn ei goes a'i fraich, a chafodd ysgytiad difrifol.

Yr oedd yna deithydd yn y "Side Car," gyda Mr. Jones, ond yn ffodus fe ddihangodd heb niwed.

Yr Udgorn 27/06/1917