Ynadlys Pwllheli.
Cynhaliwyd ddydd Mercher, gerbron Mri. J. G. Jones (cadeirydd), Maurice Jones, W. Thomas, J. H. Parry, W. W. Griffith, a G. C. Roberts.DIRWYO TAFARNWR.
Cyhuddwyd Owen Owens, Madryn Arms Hotel, Chwilog, gan yr Arolygydd Owen, o ganiatau i rai dalu am ddiod i arall yn ei dŷ yn groes i'r rheolau newyddion.Ymddangosai Mr. W. George i erlyn dros yr heddlu, a Mr. M. E. Nee, Caernarfon, dros y diffynydd.
Tystiai yr Heddwas Hughes, Porthmadog, iddo alw yn y tŷ ar Mehefin 26ain, a gwelodd Evan Jones, Ty'nrhos, Chwilog, yn talu am lasiad o gwrw i Robert Roberts, Glanywern Terrace, Afonwen. Estynid y ddiod gan Mrs. Sarah Ellis, 2, Afonwen Terrace, yr hon oedd yn ffrindiau i'r teulu, ac yn arfer a'u cynorthwyo. Dywedai fod gan Roberts ddwy geiniog yn ei law yn barod i dalu am y ddiod, ond rhoddodd Jones swllt i dalu am y ddau lasiad, a chafodd wyth geiniog o newid yn ôl.
Dywedodd Mrs. Ellis wrtho ef nad oedd ond yn cynorthwyo yn y tŷ ac fod y lle yn ngofal Miss Annie Owen, y ferch. Aeth ef i siarad â Miss Owen, a dywedodd wrtho mai nid hwy oedd yr unig droseddwyr yn y cyfeiriad hwnw, ac nad oeddynt eto wedi stopio treatio yn y tŷ. Dywedodd yntau wrthi am beidio a dweyd dim yn rhagor (chwerthin).
Dywedai Mr. Nee fod Mr. a Mrs. Owen wedi myned i gyfarfod pregethu i Gapel Helyg y noson dan sylw, gan adael y tŷ yn ngofal eu merch, yr hon oedd yn 18 mlwydd oed. Gan fod Mrs. Ellis yn arfer a chynorthwyo estynodd y ddiod i Roberts a Jones tra yr oedd Miss Owen yn y drws. Dywedai Owen Owens yn ei dystiolaeth mai yr hyn a ddywedodd ei ferch wrth yr Heddwas ydoedd fod rhai trwyddedwyr heb atal treatio yn eu tai. Yr oeddynt hwy wedi atal yr arferiad er y dydd cyntaf y daeth yr archeb i rym. Nid oedd ef wedi dirprwyo y gwaith o ofalu am y tŷ i Mrs. Ellis. Fe wnaeth hyny ohoni ei hun yn absenoldeb y ferch.
Dywedai Mrs. Ellis nas gwyddai hi ei bod yn tori y gyfraith, a gwadai Miss Owen ei bod wedi dweyd wrth yr Heddwas eu bod heb atal treatio yn y tŷ. Cyhuddwyd Evan Jones o dalu am ddiod i Robert Roberts, a chyhuddid Roberts o yfed diod wedi i arall dalu am dano. Hefyd cyhuddid Sarah Ellis o dori y gyfraith trwy estyn y ddiod iddynt.
Dirwywyd Owen Owens, Evan Jones, a Robert Roberts i 10s. yr un, a thaflwyd y cyhuddiad yn erbyn Sarah Ellis allan.