CHWILOG ADREF.

Estynwyd croesaw cynnes iawn i Mr. William Henry Pritchard, mab Mr a Mrs Rees T. Pritchard (Swyddog Elusnenol), yr hwn ddaeth adref yr wythnos o'r blaen ar ôl bod yn carcharor yn yr Almaen am tua blwyddyn.

Yr oedd ef yn gwasanaethu fel pellebrydd ar un o'n llongau pan gymerwyd ef yn garcharor.

Yr Herald Gymraeg 24/12/1918


GWRONIAETH.

Derbyniodd Mr. W. H. Pritchard, mab Mr. Rhys T. Pritchard, y Swyddog Elusenol, y Distinguished Service Medal am wrhydri pan yn gweithredu yn y Llynges fel Wireless Operator.

Yr Herald Gymraeg 13/05/1919