MARWOLAETH.
Fore dydd Mawrth, yr wythnos ddiweddaf, bu farw Mrs. Roberts, priod Mr. Tyson Roberts, Noddfa, wedi byr gystudd, a hi yn 56ain mlwydd oed.Yr oedd iddi air da fel dynes garedig a glan ei bywyd. Gedy ar ei hol briod, mab a merch, a mam drallodus, yr hon sydd dros ei chanmlwydd oed.
Ddydd Iau hebryngwyd ei gweddillion i orffwys yn mynwent Chwilog. Gwasanaethwyd gan y Parchn Morgan Price, Alun T. Jones, a J. Rhydderch, Pwllheli.
Yr Udgorn 04/02/1914
Y DDIWEDDAR MRS. ROBERTS.
Priod Mr. Tyson Roberts, Noddfa, Chwilog a Phwllheli.Os nad yw einioes ond enyd-welw
Gan ddialydd enbyd,
Uwch briw ei saeth, hi aeth hyd
I bau a Noddfa bywyd.
CYBI.