CWYN COLL AM ALUN TEYRNGED CHWILOG I'W GWEINIDOG.

Nos Fercher ymgynullodd cynulliad lluosog iawn o ardalwyr Chwilog yn nghyd er anrhegu y Parch Alun T. Jones, gweinidog y Methodistiaid Calfinaidd ar ei ymadawiad i Lanfaircaereinion. Cymerwyd y llywyddiaeth gan Mr. David Roberts, Bryn Hyfryd, yr hwn a sylwodd mai amcan y cyfarfod ydoedd cyflwyno anerchiad i'r Parch Alun Jones ar ei ymadawiad. Nid oeddynt yn meddwl talu iddo am ei lafur—yn unig dangos iddo eu bod yn gwerthfawrogi ei lafur. Yr oeddynt fel ardal yn teimlo eu bod mewn dyled fawr iawn iddo. Yr oedd wedi byw yn eu plith am 16 mlynedd, ac wedi gweithio yn egniol gyda phob achos da a dyrchafol. Yr oedd yn haeddu wneuthur ohonynt hyn iddo, oblegid efe a adeiladodd iddynt nid synagog—ond ysgol. Efe fu yn foddion i gael yr ysgol i'r ardal, yr hon fyddai yn gof adail iddo yn yr ardal hyd byth am ei bod yn dyrchafu y bobl ieuanc ac yn dyrchafu eu cymeriadau. Heblaw hynny efe ydoedd enaid Cyfarfod Misol Lleyn ac Eifionydd, ac nis gwyddai beth ddeuai ohonynt ar ôl ei golli.
Dywedai Mr. John Owen Jones, Brynbachau, mai yn araf y daeth yr ardai a'r dosbarth i adnabod y Parch Alun Jones a chan eu bod wedi ei adnabod yr oedd iddo le dwfn iawn yn eu serchiadau. Yr oedd wedi llanw pob swydd yn y Cyfarfod Misol gydag anrhydedd. Yr oedd yn bregethwr cymeradwy iawn. Hefyd gwnaeth lawer i gynyddu rhif ac ychwanegu at effeithiolrwydd yr Ysgol Sul, ac ni allai neb agor y maes llafur yn debyg iddo. Byddai yn chwith iawn ei golli fel pregethwr a chyfaill (cymeradwyaeth).
Dywedodd Mr. Elias Lloyd Jones, y Llythyrdy, y byddai yr ysgol yn gofgolofn i'r Parch Alun T Jones, yn Chwilog. Yr oedd wedi ymladd yn ddi-droi yn ôl a phenderfynol nes ei chael. Yr oedd wedi troi pob carreg oedd ar y ffordd i fod yn sylfaen i'r ysgol, a dyna'r paham y teimlid mor agos ato ac mor ofidus o'i golli. Sylwodd Mr. Morris Elias fod gweithio yn bleser i'r Parch Alun Jones ac yr oedd yn gallu bod yn ddefnyddiol yn mhob cylch. Beth bynag arall a wnai yn y lle newydd, yr oedd yn sicr o weithio yno. Gofidiai ei golli ef a'r teulu o'r ardal, a dymunai bob llwyddiant iddynt.
Dywedai Mr. W. O. Roberts, Chwilog Bach, nad oedd y Parch Alun Jones wedi gorphen gweithio yn Chwilog eto. Er ei fod yn ymadael o'r lle, yr oedd wedi planu a chychwyn mudiadau fyddai yn tyfu a dadblygu yn y dyfodol. Wyddai ef ddim prun ai'r Eglwys ynte yr ysgol oedd agosaf at ei galon. Yr oedd wedi bod yn gadeirydd i'r rheolwyr am chwe blynedd ac wedi cario y gwaith drwodd yn ddoeth a di-dramgwydd, ac yr oedd ardal gyfan yn talu gwarogaeth i'w lafur ar ei ymadawiad. Bu iddo adeiladu cenedlaeth newydd yn Chwilog. Sylwodd Mr. Rhys T. Pritchard, Chwilog, y byddai yn golled i'r ardal, i'r eglwys, i'r pwlpud, ac i'r Cyfarfod Misol ar ôl y Parch Alun Jones, a thra bo carreg ar garreg o'r ysgol ar ei gilydd bydd coffadwriaeth am dano ef yn yr ardal. Dymunai ei lwyddiant yn y dyfodol.
Dywedai Mr. Owen Thomas, LIwyn anas, eu bod yn ffodus iawn yn eu hysgolfeistr a'u gweinidog yn Chwilog, ac ni wyddai beth ddeuai ohonynt pe buasent yn colli y ddau. Buasai colli Aaron a Hur yn eu hysigo (chwerthin). Peth pur eithriadol, meddai, ydoedd cael gan weinidog gymeryd dyddordeb mewn pynciau cyhoeddus y tu allan i furiau eu henwad a,'u heglwysi eu hunain. A phan wnaent hynny o fewn eu heglwysi eu hunain cymeint ofal arswydus i gadw o fewn cylch traddodiadau y tadau (chwerthin). Ond dyna fu pechod mawr y Parch Alun Jones yn y dechreu, torodd drwy bob gwrthglawdd am fod ganddo argyhoeddiad a barn anibynol ar faterion. Yr oedd yn ormod o Alun i fod yn ail-argraffiad o neb arall. Yr oedd pobl yn chwerthin am ei ben a'i erlid yn y cychwyn. Gofynodd un hen gymeriad iddo ef yn Pwllheli, "Beth yw y mater ar yr Alun bach acw, mae yn dweyd pethau na feiddia prif ddynion y Cyfundeb eu dweyd." Cyffelybai rhai ef i gwch bach pysgota wedi rhoddi tri mast arni a daroganid y byddai iddo suddo (chwerthin). Ond erbyn hyn cydnebydd pawb y gall lywio ei lestr ac y mae yn un o'r dynion mwyaf dylanwadol yn y Cyfarfod Misol. Yr oedd Alun Jones wedi sicrhau yr ysgol bresenol i'r ardal yn erbyn teimlad yr ardal ei hun. Rhyw ysgol babanod oedd yn eu bwriad ar y cychwyn ac ofnent y gost o adeiladu ysgol fawr fel yr un bresenol. Yr oedd yn wir mai enw y Cyngor Sir oedd ar yr ysgol yn awr, ond yr oedd enw y Parch Alun Jones wedi ei argraffu yn llawer mwy dwfn ac arosol arni.
Svlwodd Mr. D. Caradog Evans, Pwllheli, fod Parch Alun Jones yn foneddwr Cristionogol yng ngwir ystyr y gair. Yr oeddynt yn cael colled fawr iawn o'i golli. Yr oedd wedi codi ton foesol bywyd yr ardaloedd ac arosai ei ddylanwad yn hir iawn. Anogai y bobl ieuanc yn enwedig i fyned yn mlaen i'r tiriogaethau breision mewn gwybodaeth a chvf- leusderau a agorwyd iddynt gan lafur Mr. Jones. Ardaloedd bychain gwledig oedd yn magu cewri a dylai Chwilog godi llawer yn y dyfodol gyda'r manteision adnewyddol oedd ganddynt.
Wrth gyflwyno anerchiad goreuredig hardd i Mr. Jones ar ran yr ardalwyr dywedai y Parch Morgan Price, gweinidog yr Annibynwyr, ei fod wedi bod yn holi rhywun sut le oedd Llanfaircaereinion, a'r ateb gafodd ydoedd—Lle go ddyrus i fyned iddo, ond lle prydferth iawn ar ôl myned. Felly teimlai ef am gymeriad Mr. Jones ei hun. Nid oedd yn hawdd myned ato, ond wedi cyrhaedd yno yr oedd yn lle prydferth odiaeth (cymeradwyaeth). Yr oedd wedi bod yn ddigon dewr nid yn unig i astudio ac i fyw y gwirionedd, ond hefyd i'w bregethu. Ac yr oedd digon o ragfarn a cheidwadaeth yn aros yn Nghymru eto fel yr oedd yn anhawdd dweyd y gwirionedd wrth y genedl. Ond bu y Parch Alun Jones yn ddigon gwrol i wneyd hynny. Yr oedd yn brophwyd Duw yn ddiamheuol, ac yr oedd wedi agor y ffordd i bethau mawr ddod ar ei ôl. Arwyddid vr anerchiad gan Mr. D, Roberts. W. O. Roberts, Owen Thomas, Edward Pugh, Morris Elias, ac E. D. Rowlands.
Datganwyd yn ystod y cyfarfod gan Miss Elsie Jane Griffiths, Mrs. E. D. Rowlands yr cyfeilio. Wrth gydnabod y rhodd dywedai y Parch Alun T. Jones nas gallai byth anghofio y caredigrwydd tuag ato. Teimlai ei fod yn dod i'w caru yn fwy o hyd a gwyddai eu bod hwvthau yn dod i'w garu yntau yn fwy ac ymddiried a phwyso arno. Yr oeddynt wedi bod yn garedig iawn wrtho ef ar hvd y blynyddoedd ar wahanol adegau mewn bywyd. Credai fed dyfodol pwysig iawn i Chwilog a dylent fyned yn mlaen i'w ddatblygu fel lle i ymwelwyr. Yr oedd yn lle manieisiol a phrydferth iawn.
Caed gair hefyd ganMr. E. D. Rowlands ysgrifenydd y mudiad.

Herald Gymraeg 15/09/1914