PRIODAS.

Dydd Llun, Mehefin 2, yn Eglwys St. Aelrhiw, gan y Parch G. Oliver Owen, y Bala, unwyd mewn priodas Pte. Thomas Williams, Talafon, gyda Miss Mary Hughes. Truan, Chwilog.

Gwasanaethwyd ar y briodasferch gan Miss J. Jones, Cadwgan, ac ar y priodfab gan Mr. John Williams Talafon. Wedi'r seremoni ymadawodd y pâr ieuanc yn nghanol dymuniadau da eu cyfeillion i Bwllheli, lle 'roedd y wledd briodasol wedi cael ei pharatoi. Cawsant ddiwrnod hafaidd i gychwyn taith bywyd.

Boed llwyddiant ar yr uniad.

Yr Herald Gymraeg 10/06/1919