CHWILOG. GWYWO'N FORE.

Dydd Iau cymerodd claddedigaeth y bachgen hoffus Robert John Williams, Bryn Alaw, le yma. Mae cydymdeimlad y fro a'i fam a'r teulu.

Dilynai Robert John ei orchwyl fel porter yn yr orsaf yma. Mawr hoffid ef fel bachgen hynaws a boneddigaidd.

Yr Udgorn 18/12/1918