ER COF.
Blin gennym yw deall am farwolaeth y brawd, Mr. Evan Francis, yn ei breswylfod Hen Gapel, Tynygors, Llanarmon, ac efe yn 63 mlwydd oed.Cymeriad diddan a llawen ydoedd, ac edrychid arno fel gweithiwr teg a gonest. Un o weithwyr dan y Cyngor Dosbarth ydoedd ers amser maith. Bu yn cadw Tŷ Capel Pencoed am flynyddau lawer, ac yr oedd yn boblogaidd tuhwnt gyda phawb o'i gydnabod yn mhob cylch fel cymeriad doeth a charedig.
Cydymdeimlwn a'i briod, a'i deulu yntau. Claddwyd yn Chwilog.