Llys Apel y Sir.
Cynhaliwvd yr uchod yn Mhwllheli ddydd lau. Yr oedd yn bresenol Mri. J. E. Greaves (cadeirydd), Dr. O. W. Griffith, Richard Davies, G. Hughes Roberts, T. W. Hughes, T. Griffith, Llew Davies (clerc), Lieut. Cradoc Davies, a Mr. W. E. Williams.GWRTHOD CAIS CIGYDD.
Apeliai Lieut. Davies yn erbyn esgusodiad amodol i Edward Thomas, Fron Oleu, Llangybi (cigydd), 31 mlwydd oed.Yn ateb i Mr. Davies dywedai y dyn ei fod wedi prynu busnes Mr. Morris Thomas, Fourcrosses. Yr oedd Mr. Thomas wedi ymuno a'r fyddin ar ddechreu y rhyfel. Talodd 29p am y busnes, yn cynwys cerbyd a'r celfi. Yr oedd ei turnover yn 35p yr wythnos. Ymddangosai Mr. George Pughe Jones, cyfreithiwr, ar ei ran, a dywedai fod ganddo gwsmeriaid o Lanaelhaiarn i Bwllheli.
Dim esgusodiad, ond nid i'w alw fyny hyd Mawrth 31ain.