MARW.
Ac efe flwyddyn neu ddwy tros oedran "yr addewid," gorffenodd Mr Henry Jones, Bryn Gwyn, ei yrfa ddaearol Mehefin 30ain. Mab Drws Deugoed, oedd, a brawd i'r diweddar Mr Evan Jones (leuan Eifion), Plas Gruffydd Ap Ifan. Fel ei frawd, arferai H. Jones fasnachu mewn defaid, etc yn rhan fore ei oes; ac ystyrid ef yn ddyn gonest yn ei ymdrafodaeth.Ceid ynddo hefyd nodweddion y cymydog, y cyfaill, a'r dyn ar eu goreu. Dyna oedd crefydd iddo ef, ac nid yr hyn sydd ynglyn wrth broffes ac enw. Ond nid oedd neb yn barotach i oddef nad oedd yn berffaith fel y rhelyw o blant Adda, nag efe. Yn ôl Crist, rhagrith crefyddol yw'r pechod mwyaf; ac o edrych ar fywyd o'r safle hon, diau y ceir fod H. Jones yn nes i Deyrnas Dduw na llawer sy'n pwyso ar hunangyfiawnder am y rhai y dywed y Barnwr nas adnebydd hwy, er iddynt gyflawni "gwyrthiau," etc., yn Ei Enw. Edrych dyn ar bechodau fel y maent yn ffurfiau ar bechod; edrych Duw ar bechod. Edrych dyn ar ffurf cymeriad, ond edrych Duw ar y cymeriad mewn egwyddor. O'r safle eang hon o edrych ar fywyd mae'n ibosibl i ddyn weled bywyd yn gyflawn, ac iawn synied am dano. Camgymeriad yw barnu dynion oddiar safle eu crefydd, oblegid mae genym brofion y gallant fod yn llai na'u crefydd.
Un prawf o hyn yw eu bod yn myned yn llai o ddynion wrth eu hadnabod, ond un mwy na'i broffes oedd H. Jones; ac un oedd yn myned yn well wrth ei adnabod. Nid" golchiad" arwynebol o ddynoliaeth oedd yr eiddo ef, ond yr oedd yn sylweddol drwyddo. A dylal yr eglwys roddi mwy pwys ar y gonest, unplyg, a'r diymhongar, nag ar y gorgrefyddol a'r rhai ddichon fod hyd yn oed yn rhagrithiol.
Dygid gweddillion H. Jones gan nifer o berthynasau a chyfeilbon y dydd Sadwrn dilynol i gladdfa'r teulu yn Chwilog, pryd y gwasanaethai ei weinidog, y Parch Morgan Price, a'r Parch J. Davies, B.A. (Isfryn).
Gedy'r ymadawedig amryw blant a rhai ohonynt yn yr Amerig. Dymunir ar i'r "Drych" gofnodi'r uchod.