LLANGYBI LLWYDD.
Da genym fynegi llwydd Mr. William H. Evans, Gwrnallt, yn enill y gradd o B.A., yng Ngholeg Bangor.Er hyny, gan nad pa faint o amser a llafur a thrael a olyga'r ddwy lythyren, ynghyd a'r gwerth sydd yn ddynt mae'r enillydd yn fwy o anrhydedd i'w radd nag ydyw y radd o anrhydedd iddo ef. Gresyn nad ellid dweyd hyny am chwaneg o wyr llythrenog. Yn lle bod yn foddion, neu yn arf i waith, nid yw llythrenau i lawer ond "ornaments" a chymorth i edrych i lawr ar gorachod yr enwau moelion am y gweddill o'u hoes.
Disgwyliwn lawer oddiwrth y cyfaill diymhongar, yr hwn sy'n addurn i hyd yn oed Ardal y Cewri!
Yr Herald Gymraeg 20/07/1915
I'R MAES.
Wedi bod yn hogi ei arfau gwaith rhwng muriau'r coleg ym Mangor, wele Mr. William Evans, B.A., Gwrnallt, ai wyneb ar faes llafur yr athraw mewn Ffrancaeg yn Harrow.Fel un o fechgyn glew ein bro, eiddunwn iddo yntau rwydddeb a llwydd ymhob rhyw fodd. Wedi cyrraedd rhyw safle neillduol ofnwn fod tuedd mewn rhai i ymorffwys ar eu rhwyfau, cyn dechreu mewn gwirionedd, ar eu gwaith. Yr achos o hyn, fe ddichon, yw tybied fod dysg graddol yn gyfystyr a diwylliant cyffredin. Fel rheol, dynion diwylliedig fel Dewi Wyn, Eben Fardd, ac eraill, oedd yn wir ddysgedig hefyd.
Mae'r dyn diwylliedig yn coleg ar hyd oes, am mai efe ei hun yw'r athraw goreu arno ei hun.
Disgwyliwn lawer oddiwrth ein bechgyn fu yn ffodus lle bu cynifer ohonom yn anffodus.