PRIODAS.

Dydd Mawrth. yn Siloh, unwyd yng nghwlwm priodas lan Mr Smith, o'r Wigan a Miss Alice Owen, merch Mr a. Mrs David Owen, Croesffordd, Rhosgyll. Cyflwynid y ferch gan ei thad.

Y Parch Morgan Price, gweinidog ei heglwys, roddasai'r cwlwm, yng ngwydd y cofrestrydd, Mr Rhys Prichard. Gwasanaethwyd fel gwas a morwyn gan Mr Rowlands, o Fangor, a Miss Annie Owen, A.L.C.M., chwaer y briodferch. Yr oedd yn bresenol Mr John Owen o Southport, ei brawd, a pherthynasau a chyfeillion lu, a'r oll yn gwenu ac yn dymuno llwydd y ddeuddyn unedig yn eu byd newydd.

Yng nghartref y briodasferch y mwynhawyd y wledd briodas.

Yr Herald Gymraeg 04/01/1916