CHWILOG PRIODAS HARDD.
Yng Nghapel Siloh, ddydd Mawrth, priodwyd trwy drwydded, Miss Annie Owen, A,L.C.M., merch Mr a Mrs. David Owen, Rhosgyll Crossing, a, Mr. Ebenezer Rowlands, 30b, High-street Bangor.Rhoddwyd y briodferch ymaith gau ei thad. Gweinyddwyd. gan y Parchi. R. W. Hughes, Bangor a Hugh Davies, Abererch ym mhresenoldeb y cofrestrydd, Mr. R. T Prichard. Y gwas priodas oedd Mr. David Rowlands, brawd y priodasfab a gwyliwyd ar y briodosferch gan Miss Maggie Griffith, Penybont, Chwilog. Daeth cynulliad da ynghyd i ddangos eu parch i'r par ieuanc.
Cymerai eglwys Siloh ddiddordeb neilltuol yn yr amgylchiad gan fod Miss Owen wedi bod yn gwasanaethu fel organyddes yno yn ffyddlon iawn am lawer o flynyddoedd, ei thad hefyd yn ben blaenor yn yr eglwys, yn ffyddlon a chymeradwy gan bawb. Chwareuwyd yr Ymdeithgan Briodasol gan Mr. W. E. Jones.
Cafwyd gwledd yng nghartref y briodasferch ar ôl y gwasanaeth, pryd yr oedd llawer o berthynasau a chyfeillion yn bresennol.
Aeth y par ieuanc i Surrey i dreulio eu mis mel, a phawb yn dymuno bendith nef a daear ar yr undeb.