TORRI I LYTHYRDY CAERNARFON.

Cyhyddwyd Isaac Hughes, 44, labrwr, Caernarfon, o dorri i mewn i lythyrdy Caernarfon, rhwng y 3ydd a'r 4ydd o Ragfyr, a dwyn oddiyno y swm o 2p 5s 5c, arian y Postfeistr Cyffredinol.

Erlynwyd gan Mr. J. H. Jenkins, ac amddiffynwyd gan Mr. M . E. Nee.

Addefodd y cyhuddiedig ei fod yn euog.

Galwodd Mr. Nee ar y Parch Morgan Jones curad Caernarfon, yr hwn a ddywedodd fod gan y cyhuddedig gymeriad da hyd yr adeg yma.

Dywedodd Mr. Nee fod y cyhuddedig wedi cael profedigaeth chwerw. Collodd ei fab bymtheg mis yn ôl, a chwe mis yn ôl bu ei wraig farw. Wedi hynny collodd yntau ei waith.

Y diwrnod dan sylw cyfarfu cyfeillion, ac yn lle rhoddi bwyd iddo rhoisant iddo ddiod feddwol, a'r noson hon y torrodd i mewn i'r Llythyrdy. Nid oedd yn arfer cyfeilachu a throseddwyr, ond syrthiodd i'r demtasiwn oherwydd y sefyllfa yr oedd ynddi. Gofynai i'r Llys ymddwyn yn dyner ato gan ei fod wedi bod yng ngharchar am bum wythnos yn aros ei brawf.

Dywedodd y Cadeirydd yr ystyrai yr ynadon fod y trosedd yn un pur ddifrifol, ond yn wyneb yr hyn a ddywedwyd o'i blaid nid oeddis am roddi dedfryd drom arno.

Anfonid ef i garchar am ddau fis.

Herald Gymraeg 13/01/1914