CONTRACT PWYSIG.

Y Mae Mr. D. J. Williams, y gof cywrain o waith haiarn Porthyraur, newydd gael contract am railing hardd tua wyth can troedfedd o hyd ac yn cynwys tair giat brydferth, i'w osod ger Ty'r Cyffredin yn Llundain. Cafodd Mr. Williams y contract mewn cystadleuaeth รข gofaint eraill.

Felly fe ymddengys gwaith Mr. Williams - yr hwn sydd wedi enill cymaint o edmygedd am ei waith o gwmpas Castell Caernarfon - yn fuan yng nghanol prif ddinas y byd. Gobeithio y bydd llwyddiant Mr. Williams yn ei symbylu i fynd ymlaen i enill mwy o lwyddiant eto yn y cyfeiriad hwn.

Herald Gymraeg 13/01/1914