LLYS SIROL PWLLHELI.

Profiad y Barnwr o Fagu Anifeiliaid.

Cynhaliwyd yr uchod ddydd Mawrth gerbron y Barnwr William Evans.

Hawliai Mr G. Jones Roberts, Meddyg Anifeiliaid Pwllheli y swm o 10p 2s 6c oddiar Dr Gwenogfryn Evans Llanbedrog, am wasanaethu ar ei anifeiliaid. Yr oeddynt yn cynwys tal am weinyddu ar ei anifeiliaid yn y blynyddau 1912, 1913, 1914, a 1915, yn cynwys deg o ymweliadau gan ei gynorthwywr a phedwar ganddo ef ei hun.

Mewn atebiad i'r Barnwr dywedodd ei fod yn codi 2s 6c y tro a swllt y filldir am wasanaeth y gwas a gini y tro am ei wasanaeth ei hun. Yr oedd yn codi hefyd am y physig.

Dywedodd Dr Evans ei fod ef yn teimlo fod Mr Roberts yn codi tal eithafol am ei wasanaeth. Nid oedd yn rhoddi dim manylion am yr ymweliadau yn y bil, ac nid oedd ef yn sicr a wnaed rhai o'r ymweliadau.

Sylwodd Mr Roberts mai boneddwr ac nid amaethwr ydoedd Dr Evans ac yr oedd oddicartref yn fynych. Yr oedd manylion am yr ymweliadau yn ei lyfr ef.

Sylwodd Dr Evans ei fod ef wedi dangos y bil i gyfaill sydd yn feddyg anifeiliaid ac i feddyg arall ac yr oedd y ddau o'r farn fod y swm a hawlid yn ormodol.

Sylwodd y Barnwr ei fod ef wedi cael profiad lled chwerw yn y cyfeiriad hwn. Aeth buwch perthynol iddo yn sal a bu raid iddo dalu 8p i'r meddyg anifeiliaid ac nid oedd y fuwch yn werth mwy na 10p (chwerthin).

Sylwodd Dr Evans fod syniad yn yr ardal os byddai gan ddyn dipyn o arian y rhaid ei fod wedi ei eni yn ffwl (chwerthin). Yr oedd cariwr wedi gofyn am gini y dunell am gario ei ddodrefn ef i Lanbedrog, pryd nad oedd yn gofyn ond 4s y dunell oddiar bobl eraill.

Dywedodd yr hawlydd ei fod ef yn codi yr un bris ar bawb yn dlawd a chyfoethog, ond nis gallai godi yr un swm am bob achos gan fod mwy o drafferth o lawer gyda rhai achosion na'u gilydd.

Gwnaeth y Barnwr archeb am 7p.

Yr Herald Gymraeg 09/05/1916