MARW A CHLADDU.

Drwg gennym orfod cofnodi marwolaeth Miss Catherine Mary Williams, Tanyrardd, yr hyn a ddigwyddodd nos Wener, Chwefror 22ain.

Ymddyrchafodd ei hysbryd glan i'r pur drigfannau, cyn cerdded o honi lwybrau daear lawr un mlynedd a'r hugain. Ni fu yn gorwedd ond bythefnos, ond er byred yr adeg dioddefodd gystudd caled.

Nid yn aml y gwelwyd tecach geneth na Catherine Mary. Yr oedd fel y lili yn mysg y blodau. Yr oedd ei gwedd yn wridgoch, a dawnsiai ei llygaid gloew mewn llawenydd. Ymdonai bywyd a hoen o'i chwmpas yn ddibaid. Yr oedd mor sionc a'r awel, ac mor iach ei chalon a phelydr y goleuni. Ond yr oedd pryf yn y rhosyn tlws a methodd pawb a'i ddifa. Yr oedd yn feddianol ar lais tlws i ganu, a chanodd lawer yn ystod ei bywyd byr, a dysgai blant yr eglwys yr oedd hi aelod ohoni i ganu. Yr oedd bob amser yn barod i wasanaethu cymdeithas. Pan y byddai cyngherddau elusenol yn cael eu cynal byddai hi bob amser ar y llwyfan yn rhoddi ei gwasanaeth yn rhad. Ennillodd lawer o wobrwyon mewn cyfarfodydd llenyddol trwy ganu ac adrodd.

Gwasanaethai yn Gwthrian, Aberdaron, gyda Mr a Mrs Pickering Hughes, pa rai a roddal air ùchel iddi. Cafodd bob gofal yn ei chystudd a alasai tad a mam, Dr. Griffiith, Nefyn, a Nurse Wynn Jones, ac eraill, estyn iddi. Ond er yr holl ofal, y barug oer a orfu a gwywodd y blodeuyn tano.

Y dydd Iau dilynol, er garwed yr hin daeth tyrfa fawr ynghyd i hebrwng yr hyn oedd farwol ohoni i fynwent St. Aelrhyw, pryd y claddwyd dan y drefn newydd.

Gwasanaethwyd gan y Parch J. R. Jones, Rhiw. Arhosed diddanweb Duw i felysu dagrau ei hanwyl dad a man, ei brodyr a'i chwaer. Anfonwyd blodedyrch gan y rhai canlynol : Misses C. Jones a J. C. Thomas, Ty Canol; Elsie, M. J. Jones, Penmynydd, C. Jones, Ty Canol, A berdaron; Lydia, Dora Jones, Trip; M. A. Roberts, Penybryn, Llanbedrog; J. Williams, Cassie a Mrs Roberts, Erw, Llanbedrog; Nell Jones, Sarn; M. Williams, Ty Mawr; L. A. Jones, Llys-hyfrvd; Ann Jones, Brynmorfa; Kate Jones, Tanycapel; Kate Jones, Frondeg; L. Williams, Gorphwysfa; Nell Jones, Ty Newydd; Maria W. Hughes, Siop Newydd; Nell Roberts, Bryn Ffoulk; Dora Williams, Tynygraig; Mr a Mrs Pickering Hughes, Gwthrian, ac un mewn gwydr gan ei brodyr ac eglwys Horeb (W.), Aberdaron, o ba le yr oedd yn aelod weithgar.

Ar dy arch fe roed y blodau
Yn arwyddion o ein serch,
Dianc wnaethost cyn it brofi
O enbydrwydd stormydd, erch,
Un o beilau prydferth natur
Oeddit yma ar y llawr,
Mil prydferthach ydwyt heddyw
'N berl ynghoron lesu mawr.

DORA WILLIAMS.

Yr Herald Gymraeg 05/03/1918