MARWOLAETH A CHLADDEDGAETH.

Wedi poenus gystudd y mae genym y gorchwyl prudd o gofnodi marwolaeth Mrs Dora Williams, Treheli. Cymerodd hyn le a hi yn dyddhau, dydd cyntaf o'r wythnos, Chwefror 4ydd, yn 55 mlwydd oed.

Treuliodd fywyd tawel a diymhongar. Cafodd ei breintio a synwyr cyffredin cryf. Ni chlywid hi un amser yn absenu ei chymydogion na'i chydnabod. Ymddygai yn foneddigaidd parchai bawb a pherchid hi gan bawb. Chwith genym feddwl na chawn weled ei gwyneb siriol byth mwy yr ochr hyn.

Y dydd Gwener dilynol hebryrngwyd yr hyn oedd farwol ohoni i dy ei hir gartref i fynwent St. Aelrhiw. Anghyhoedd ydoedd yr angladd. Gedy briod ac un ferch i alaru ar ei hôl.

Cysyred yr Arglwydd hwy yn eu profedigaeth chwerw.

Yr Herald Gymraeg 13/02/1917