DEATH OF DR. EVAN JOHN EVANS.

The death occured on Friday of Dr Evan John Evans, of Abersoch, at Liverpool, after undergoing an operation for appendicitis. He was in his 37th year, and was the son of the late Mr R. Jones Evans, Llangian, a well known public man, a member of the Board of Guardians, and a Deacon with the Calvanistic Methodists.

Dr. Evans had won some of the highest honours and diplomas in his profession, and held the highest place in the esteem of his professional friends.

The deepest sympathy is felt with Mrs Evans and her five little children. Dr. Evans had an extensive practice, and his death will be a loss to the whole community. He was a Churchman, and in politics a staunch Conservative.

North Wales Chronicle 08/10/1915


GALAR AM FEDDYG POBLOGAIDD.

Angladd Dr. Evans, Abersoch.

Taenwyd ton o bruddder dros Leyn ac Eifionydd gan y newydd prudd am farwolaeth Dr Owen J. Jones Evans, M.D., Y Garth, Abersoch. Ymosodwyd yn sydyn arno gan afiechyd peryglus a symudwyd ef i gartref i Lerpwl lle yr aeth dan weithred lawfeddygol gan Dr. Thirlwell Thomas. Cychwynodd wella yn llwyddianus am rai dyddiau, ond yn ddiweddarach gwaethygodd a bu farw tua chwech o'r gloch nos Sul, Hydref 3ydd.

Mab ydoedd ef i'r diweddar Mr a Mrs R. Jones Evaas, Penybont, Llangian, a bu ei dad yn ddiacon ffyddlon gyda'r Methodistiaid yn y Bwlch am flynydda lawer, ac yr oedd yn hynod am ei letygarwch i bregethwyr. Er nad oedd Dr. Evans ond 36 mlwydd oed, yr oedd wedi gweithio yn galed ynglyn a'i alwedigaeth ac wedi enill ymdduriedaeth a serch trigolion Lleyn ac Eifionydd. Yr oedd galar cyffredinol trwy y wlad ar ei ôl, ac ni chlywid yn unman ond pobl yn adrodd am garedigrwydd a haelioni y meddyg tuag atynt ar ryw adeg neu gilydd. Bu ei yrfa addysgol ar hyd-ddi yn un o lwyddiant mawr. Pasiodd ei arholiadau gvda chyflymdra mawr. Cychwynodd ei addysg yn Y sgol Ramadegol Bottwnog ac yn Mhrifysgol Rhydychen enillodd y fedal aur a lluaws o wobrau yn ei ddosbarthiadau cyn sicrhau prif radd y Brifysgol, sef M.D. Bu'n gwasanaethu fel cynorthwywr i Dr. Roberts, Pontypridd, am beth amser, pryd y bu iddo enill serch a chydymdeimlad y glowyr.

Dyma fel y datganai Undebwyr y Great Western Lodge, Pontypridd, eu gofid o'i golli ar ôl talu gwarogaeth i'w allu fel meddyg dywedent "Yr ydym i gyd yn teimlo yn dra-gofidus o'i golli, ond gan ei fod yn ymadael gyda'r bwriad o gyfaddasu ei hunan i fod o fwy o wasanaeth i'w gyd-ddynion, teimlwn mai ein dyledswydd yw dymuno pob llwyddiant iddo. Gallwn fod yn dra hyderus pa le bynag y bydd i ragluniaeth ei arwain y bydd gweithwyr a thrigolion y rhanbarth hwnw yn ffodus iawn i sicrhau y fath un.

Ac felly profodd ei gysylltiad fyr a Lleyn ac Eifionydd. Bu yn gwasanaethu yn ysbyty Caerdydd am tua 13 mis ac yna dal y swydd o assistant house physician, ac acting resident officer gyda dehenrwydd mawr. Tua deng mlynedd yn ôl yr oedd yn ymgeisydd am y swydd o feddyg dros Undeb Pwllheli yn nosbsrth Abersoch, a phenodwyd ef, a symudodd i'w hen gartref yn Penbont, yna adeiladodd y Garth yn Abersoch, a bu yn cario busnes eang yno am bum mlynedd. Yr oedd yn dra chymeradwy gan bob enwad crefyddol a phob plaid wleidyddol. Cyfyngodd gylch ei weithgarwch bron yn gyfangwbl i'w swydd, a gweinyddodd gymwynasau a gwnaeth elusenau lu yn y cylch hwnw.

Mae ffrwd o gydymdeimlad pur yn rhedeg o bob rhan o'r wlad at Mrs Evans, ei briod, a i bum plentyn bach.

ANGLADD LLUOSOG.

Dydd Gwener daeth tyrfa yn rhifo miloedd lawer o bob rhan o'r wlad i weinyddu y gymwynas olaf iddo. Rhifai y cerbydau oedd yn yr orymdaith tua phedwar ugain. Cymerodd yr angladd le yn mynwent y Bwlch yn unol a'i ddymuniad ef. Llanwyd y capel i'r ymylon a gwasanaethwyd gan y Parchn. H. D. Lloyd, B.D., Bwlch; H. J. Manley, Llanbedrog; a H. R. Roberts. Llanengan. Yr oedd dagrau gloewon yn rhedeg ar ruddiau degau yn y cynulliad pan y canwyd hoff emyn y meddyg, sef, "Oleuni Mwyn." Arweinid y canu gan Mr R. O. Hughes, a chyfeilid an Mr J. W. Thomas. Cytunai pawb â sylwadau y Parch H. D. Lloyd ar ei weddi, yn enwedig pan y diolchai am roddi ysbryd cymwynaswr a chalon cymwynaswr yn yr ymadawedig yn ogystal a medr a thalent i weinyddu cymwynasau.

Y prif alarwyr oeddynt Mrs Evans (gweddw), Master Griffith Evans (mab); Mrs a Capten Williams, Rochdale, Mrs Williams, Olgra (chwiorydd); Mri Davies, Caerdydd (brodyr Mrs Evans) Mrs a Miss Hughes. Deucoch; Mrs Owen, Mon; Mrs Jones, Ty Corniog; Mr David Evans, Ty Corniog; Mr D. R. Evans, Mon; John T. Evans, Ty Corniog; David Owen. Mon; Capten Owen. Pwllheli; Mr. Griffith Jones, Barrack; Mrs Griffiths, Fronheulog; Mrs Williams., St. Tudwals Hotel; Mri Evan Jones, Cefnen; John Jones, Bryneithin, Robert Jones. Cim; Edward Williams, Mon; W. Williams, Mon, Robert Williams, Sarn; Griffith Roberts, Aberdaron; Owen Griffiths, Penygraig. Yr oedd y clerigwyr a'r gweinidogion canlynol yn bresenol: Parchn. Foulkes Roberts, Rhyd Bach, J. N. Edmunds. Lemett Jones. Llanor; J. Davies, Llaniestyn; Hugh Pritchard, Carno; T. J. Jones, Bryn Mawr; Robert Roberts, Efailnewydd; Wheldon Griffiths, Llanengan; J. Edwards, Pwllheli; Dr Ellis T. Evans. Mela; Dr O. Wynne Griffiths. Pwllheli (Cadeirydd y Cyngor Sir) Dr R. J. Evans (Maer Pwllheli,- a Llywydd Cymdeithas Meddygon Arfon a Meirion). Dr Thomas, Bottwnog; Dr. Livingstone Davies, U.H.. Dr. Gladstone Jones, Dr. Rowlands, a Dr. Lloyd Owen, Criccieth; Dr. Rowlands, Llanaelhaiarn.

Hefyd nifer luosog o wyr cyhoeddus yn cynwys Mri Hugh Pritchard (Clerc Bwrdd Undeb Pwllheli), Arthen. O. Owen (Clerc Ynadon Pwllheli); C. H Lloyd Edwards U.H., Nanhoron; R.O. Roberts, Llanaelhaiarn; William Williams, Puntygwair; Mr a Mrs Winterbotham, Mr. D. Caradoc Evans, Pwllheli; Minopris Haulfryn; W. W. Griffiths. U.H. Griffith Jones "Penbont; Henadur Abel Williams, Abersoch; Mri R. O. Griffiths, Pwllheli; H. J. Parry Pwllheli; R. John Jones, Pwllheli; Owen Rowlands, Llanbedrog; J Evans, Caernarfon; M. N. Jones. Llanbedrog; O. Ellis Jones Pwllheli; W. E. Hughes, Pensarn; David Hughes, Bodfel Bach; Robert Roberts. Gors Goch; Prifathro Evans, Madryn; Mr a Mrs Hughes, Mynachdy Sarn; Richard Thomas. Talsarn Farm; Miss Williams. Bryncelyn; Mrs Carrpg; Capten Cotton, Llanbedrog; Mrs Griffith, Hiwaen: Mrs Griffiths, Hirwaen Pwllheli; H. Wilkinson, Pwllheli; Misses Williams, Pwll Parc, Edeyrn; Miss Williams, Portdinlleyn; Dr Gwenogfryn Evans. U.H., Llanbedrog; Capten Moore, Abersoch; J. Griffiths, Ty Newydd Hotel, Aberdaron; William Jones,Llaniestyn; Humphrey Griffith, Tyddyn Bengan; G. Roberts, Rhoshirwaen; R. O. Roberts Penfrynydyn; Owen Jones, Rhvdyclafdy; John Jones, Rhydyclafdy; Mr. Talmage Davies, bank manager, Pwllheli; Mr. Williams. Pwll Par; Miss Griffiths. Penlan Bach, Pwllheli; Mr. R. J Jones, Efailnewydd; W. Hughes, Tynyffordd; Mrs J. G. Jones, Penmaen; Mr. Jones, Bachellyn; John Evans, Nant; Robert Griffiths, Cregir Goch; yr Heddwas Owen, Abersoch; a'r Heddwas Owen, Llanbedrog. Anfonwyd blodeudyrch gan y personau canlynol Mrs Evans (gweddw) a'r plant; Mrs Williams, Olgra. a'r teuIu; Capten a Mrs Williams, Rockdale; Mrs Marsden, Caerdydd, Mrs a Miss Hughes, Deucoch; Mr a Mrs W. Davies; Mr J. Davies, Mr. F. Davies, o Gaerdydd, Mrs Owen a Miss Williams, Mon; Dr a Mrs Ellis T. Evans, Mr a Mrs Griffith Jones, Barrack, Misses Jones, Barrack; Mr a Mrs Pilker. Llandaff; Capten Owen a'r teulu, Pwllheli; Colonel Lloyd Evans, Broom Hall Llanbedrog Council School; Mr a Mrs Thomas, Talsarn; Parch a Mrs Weldon Griffiths; Mr a Mrs R. O. Griffiths, Pwllheli; Mrs J. G. Jones, Penmaen; Mr a Mrs. Arthen O. Owen; Miss M. A. Roberts, Pen-bryn; Mr a Mrs Jones. Glasfryn; friends in Llangian; Mr. R. R. Jones, Castell Grug; Mrs Carreg; Surgeon General a Mrs C. M. Ellis, Rhyllech; Miss C. Ross, Cottage in the Sands Abersoch; Mr. Madoc Jones. Tan. Capel; Mr R. Evans, Geufron; manager and workmen of Cambrian Granite Quarry, Llanbedrog; Mr a Mrs R. O. Williams, Liverpool; Mrs Williams and Penry, Liverpool; Abersoch friends; Mrs W. H. Winterbotham; Lieut.-Colonel and Mrs Allan Gough, Gelliwig; all at Tanybryn, Abersoch; Mrs G. A. Lucas a Miss Kittie Nahen Unhlofe, Abersoch; Mr a Mrs Roberts. Hendy: Parch a Mrs. Roberts, Rectory, Llangian; Mrs Caulder Eastbourne, Liverpool; Mr. F. C. Minopris and family, Liverpool; Nurse Parry, Aberdaron; Mr a Mrs W. Jones. Shop, Llangian; Mr D. J. Thomas, Pwllheli; the committee and members of the Abersoch. Golf Club; Mr a Mrs Griffiths. Nanhoron; Misses Jones, Glasfryn; Cyfeillion o Mynytho; Mrs Roberts, fish shop, Abersoch; Mrs McGowan and members of Aberdaron V.A.D; Mr a Mrs Morgan, the Cottage; Mr. T. Wilkinson, Pwllheli; Lieut a Mrs J. Trevor Dickson, Chester; Mr. Hughes and family; The Nurseries, Pwllheli; Mrs and Misses Williams, Edern; Mr a Mrs. Mary Jones, Ty Pella. Mynytho; Mr a Mrs C. J. Williams, Penybryn. Llanbedrog; the family at Smithy Llangian; Mr. J. F. Jones, Castell Grug; Mr a Mrs Frances Reeves; Mrs R. Jones Hughes, Pwllheli; Miss M. Jones, Bwlch; No 1 Company of 1-5th Cheshire Regiment.

Yr Herald Gymraeg 12/10/1915


Angladd Dr. O. J Evans, Abersoch.

Ddydd Gener ymgynullodd torf o rai miloedd i dalu'r gymwynas olaf i'r meddyg hoff.

Yr oedd y cerbydau yn yr angladd yn rhifo oddeutu pedwar ugain.

Yn mynwent y Bwlch yr oedd yr angladd, yn unol a dymuniad yr ymadawedig.

Yr oedd y capal yn orlawn a gwasanasthwyd gan y Parchn H. D. Lloyd, B. D., Bwlch H. J. Manley, Llanbedrog, a H. R Roberts, Llanengan.

Y rhai a ganlyn oedd y prif alarwyr :-Mrs Evans (gweddw), Master Griffith Evans (mab) Mrs a Capten Wiliiams, Rochdale, Mrs Williams, Olgra (chwiorydd); Mri Davies, Caerdydd (brodyr Mrs Evans); Mrs a Miss Hughes, Deucoch; Mrs Owen, Mon; Mrs Jones; Mr David Evans, Ty Corniog; Mr J. T. Evans, Ty Corniog; Mr D. R. Evans, Mon; Mr David Owen, Mon; Capten Owen, Pwnheli; Mr G. Jones, Barrach; Mrs Griffiths, Fron- heulog; Mrs Williams, St. Tudwal's Hotel; Mr Evan Jones, Cefnen; Mr John Jones, Bryncethin; Mr R. Jones. Cim; Mr Edward Wiiliams, Mon; Mr W. Williams, Mon; Mr Robert Williams, Sarn; Mr Griffith Roberts, Aberdaron; Mr O. Griffiths, Penygraig.

Er cof am Dr. Owen J. Evans.

Mae marw yn beth cyffredin yn ein plith, ond rhyfedd y gwahaniaeth a deimlwn ar ôl rhai yn fwy na'u gilydd Mae rhyw nifer fechan ymhob cylch a lle neilltuol ganddunt yngolwg a mynwes eu cydoeswyr. Mae rhyw swyn yn perthyn uddunt, rhyw sirioldeb yn eu gwyneb, rhyw deimlad gwresog yn ysgwydiad eu llaw, rhyw barodrwydd caredig yn perthyn uddunt i helpu'r cloff ar ei daith—ni wyddom ni ddim yn iawn beth yw dirgelwch eu gallu, ond yn awr eu hymddatodiad fe wyddom fod amddifadrwydd chwerw yn meddianu ein caloneu.

Un o'r cymmeriad yna oedd ein cyfaill ieuanc, Dr. Owen J. Evans, Y Garth, Abersoch. Fel meddyg yr oedd yn un o'r rhai goreu a mwyaf medrus yr oedd ei galon hefyd yn ei waith. Hefyd yr oedd y ddynoliaeth tu cefn i'r meddyg yn ei hynodi. Yr oedd yn dyfod i ystafell y claf fel tywyniad haul rhwng cymylau. Fe wyddei yn iawn am ddylanwad meddwl ar y corff, a chan mae gelyn mwyaf bywyd yw gwan-yspryd, gofalei gadw'r meddwl yn hyderus. Med ei chwerthin gwan-galondid allan o feddwl y claf, a'i arwain i gredu fod y ffordd yn well ychydig nes ymlaen. Pan fyddei yr afiechyd yn drwm ac yn beryglus yr oedd yn ofalus tuhwnt i un doctor a welodd yr yscrifenydd, ac mae wedy gweled llawer. Rhedai ei feddwl yn barhaus ar y serious cases - darllenai, ymchwiliai, a chadwei y claf dan wyliadwraeth gyson.

Nid rhyfedd ynteu fod tristwch yn gwynebau y rhan fwyaf o drigolion Lleyn heddyw. Teimlir fod rhywbeth a hoffem yn fawr wedi diflanu, ac fod rhyw wagter rhyfedd yn ein bro. Yr oeddem yn teimlo yn ddiogel pan oedd yn ein plith, ac yn awr teimlwn na wyddom beth ddygwydd. Dywedodd hen wr tlawd na fu ddim rhag iddo guro wrth ddrws Doctor Evans erioed heb atteb uniongyrchol, ond fod rhaid curo dair a phedeir gwaith wrth ddrysea rhai meddygon cyn y deuant i'w weled. Clod Dr. Evans oedd ei fod mor barod i fyned i helpu'r tlawd a'r cyfoethog- yr oedd ei barodrwydd yn anibynnol ar y tâl a gaffei, neu nis caffei.

Nid oedd na dryccin na chanol nos a'i rhwysirei i atteb galwad y tlottaf yn ein plith a lle welei galedi cyfrannei lle nis derbyniei geiniog. Bryd arall galwei ar gymodog, soniei am bethau wnai lês i'r tlawd claf nas medrei eu prynu, ac ymaith a fo. Yr oedd yr hint yn fedrus ac yn llwyddianus.

'Roedd rhywbeth yn ei edrychiad yn dweyd "Fe wnn i y gwnewch chi beth sydd eisieu." Nid rhyfedd ynteu fod y tlodion yn teimlo eu bod wedi colli eu cyfaill goreu a charedicaf. Hir yr erys ei barch a'i glod ynghalonau pawb a'i hadweinei. Bu farw yn llawnder ei nerth a'i fedrusrwydd, ond tra fu gwnaei waith tri. Gwae ni o'r dynghed.

"O ddech eu nos hyd ddeweint
dihunaf, wylaf bylgeint."

Heddwch i'w lwch-rhagor i'w enaid.

"Nid awn i'r nef a'i threfi,
Pei gwyppwn nas cai hwn hi."

Yr Udgorn 13/10/1915



DR. O. J. EVANS, ABERSOCH.

Dr. Owen John Evans, of Abersoch, whose death, as briefly announced in our last issue, occurred at Liverpool, following an operation for appendicitis, was 36 years of age, and was the son of the late Mr R. Jones Evans, Llangian.

He received his early education in the local elementary school, and thence proceeded to Bottwnog Grammar School. Later on he proceeded to Oxford, where he distinguished himself in his studies, and won a gold medal and carried off many other cherished honours before he proceeded to take life M.D. degree. After completing his medical studies he became assistant to Dr. Roberts, Pontypridd, where he immediately won the confidence and the highest regards of the colliers, who, upon his departure from the district, presented him with a testimonial, and an address in which they expressed themselves exceedingly sorry at his departure both on account of his sterling character as a man and as a very competent surgeon and physician.

About ten years ago Dr. Evans was an applicant for the post of medical officer for the Abersoch district, and was successful. At first he lived at his old home, Penybont, but later he built for himself the new house named Garth. He succeeded in acquiring in a few years an extensive practice, and was held in the highest esteem by the inhabitants of a wide area in South Carnarvonshire. It was whilst in South Wales that he met the lady who became his wife, and who proved a real helpmate to him. With her and the five little children there is the profoundest sympathy.

The funeral took place on Friday afternoon, the interment being at Bwlch burial ground, Llanengan. A large concourse of people from every part of Lleyn and Eifionydd and many from beyond joined in the cortege, which extended over a mile, and included over ninety motor cars and other vehicles. The officiating ministers were the Rev. H. R. Roberts, B.D., rector of Llanengan; Rev. H. J. Manley, rector of Llangian and Llanbedrog; and the Rev. H. D. Lloyd, B.D., LLanengan Bwlch Chapel, where the service was held, was overcrowded, and hundreds of people had to stay outside during its progress. The service was most impressive, and deceased's favourite hymn, "Oleuni mwyn," was sung with much pathos. The singing was under the conductorship of Mr R. O. Hughes, and Mr J. W. Thomas presided at the organ.

The mourners were:—Master Griffith Evans (son), Captain and Mrs Williams. Rochdale, and Mrs Williams, Olgra (brother-in-law and sisters); Messrs D. and F. Davies (brothers-in-law), Mrs and Miss Hughes, Deucoch; Mrs Jones, Ty Corniog; Mrs Owen, Anglesey Messrs D. R. Evans, Anglesey; D. Evans and J. T. Evans, Ty Corniog; J. Owen, Pwllheli; D. Owen, Anglesey: G. Jones, Barrach; Mrs Griffith, Fronheulog: Mrs Williams, St. Tudwal's Hotel; Messrs John Jones, Bryn Cethin; Evan Jones, Cefnen; Robert Jones, Cwm; Robert Williams, Sam; Griffith Roberts, P.O., Aberdaron; Owen Griffiths, Pencraig. Amongst others present were: the Rev. T. E. Sheppard Jones, Llannor; Rev. D. F. Roberts, Rhyd bach Rev. J. Edmunds, Llanbedrog; Rev. J. Davies, Llaniestyn; Rev. J. Richards,Rector of Carno: Rev. T. J. Jones, Bryn Mawr; Rev. Robert Roberts. Efail Newydd; Rev. J. Wheldon Griffith, Llangian; Rev. J. E dwards, Pwllheli; Dr. Evans, Mela Dr. R. Jones Evans, Dr. Thomas, Dr. D. L. Davies, Criccieth; Dr. H. Gladstone Jones, Dr. Lloyd Owen, Dr. J. W. Rowlands, Messrs Griffith: Jones, Penybont Farm; Abel Williams, C.C., Hugh Prichard, C.C., Arthen O. Owen, W. Cradoc Davies, C. H. Llovd Edwards, J.P., C.C., W. W. Griffith, J.P., H. J. Parry, R. O. Griffith, Pwllheli; J. Evans, Carnarvon; W. E. Hughes, Pensarn; David Hughes, Bodfel Bach; R. Evans, Geufron; Mr and Mrs Jones, Glasfrvn; Nanney Jones, G. Roberts, Rhos; Owen Jones and J. Jones, Rhyd; D. G. Davies, Griffith Jones, Bodvel Hall; R. H. Davies, Bodvean; W. Talmage Davies, Miss Griffith, PenIan Bach; Wm. Hughes, Ty'n y ffordd; R. O. Roberts, Penrhynydyn Mrs J. G. Jones, Penmaen Robert Griffith, Creigir Goch; John Evans, Nant; PC's Will. Owen, Abersoch, and J. Owen, Llanbedrog; R. J. Jones, Efailnewydd; R. H. Evans, Madryn College; W. Griffith, Hirwaen; T. Wilkinson, Pwllheli; Mrs Griffith, Hirwaen House, Pwllheli; Miss Williams, Brvncelyn; Dr. Gwenogfryn Evans, Miss Williams, Porthdinlleyn Farm; Capt. Moore, Mrs Carreg, Mrs Hughes, Monachdy, Sarn; R. Thomas, Talsarn Fawr; Captain Cotton, J. Griffith, Aberdaron Wm. Jones, Llaniestyn H. Griffith, Tyddyn Bengan; W. Williams, Punt y Gwair; Cadwaladr Williams, Corn Farm; Owen Jones, Aberdaron; J. Hughes Parry, J.P., J. T. Turner, W. E. Jones, Pwllheli; H. Williams, Edeyrn, and others.

North Wales Chronicle 15/10/1915