YNADLYS PWLLHELI.
Cynhaliwyd dydd Mercher, gerbron Mri. J. T. Jones; (Cadeirydd), a C. H. Lloyd Edwards.Cyhuddai yr Arolygydd Walter Snelling, Robert Thomas, Tynymorfa, Llanengan, o arfer creulondeb tuag at ei geffyl drwy ei weithio tra mewn cyflwr amhriodol.
Tystiodd yr Heddwas Roberts iddo weled y diffynydd yn dod ag wyth o bersonnau mewn cerbyd i'r dref gyda'r ceffyl hwn. Yr oedd amryw friwiau ar y ceffyl. Cadarnhawyd hyn gan y Rhingyll Lloyd, yr hwn a ddywedodd fod y ceffyl mewn cyflwr difrifol.
Dywedodd y diffynydd fod y briwiau mewn lle anghyfleus iawn ar y ceffyl a'i fod wedi gwario llawer iaw n o arian er ceisio ei wella. Yr oedd yn gariwr er deunaw mlynedd ac ni ddygwyd o'r blaen unrhyw gyhuddiad yn ei ebyn.
Dirwywyd ef i ddeg swllt.