ANGLADD MRS WILLIAMS, GLASFRYN.

Dydd Iau cymerodd angladd Mrs Williams, Glasfryn, le yng Nghapel y Bwlch, y Parch.H. H. Roberts, Rhiethor a H. D. Lloyd, B.D., gweinidog, yn gwasanaethu.

Yr oedd Mrs Williams yn 81 mlwydd oed. Hi oedd yr aelod hynaf yng Nghapel y Bwlch, ac yr oedd yn gymeriad cadarn a pharod ei chymwnas ac yn fawr ei pharch yn yr holl ardal. Priod ydoedd i'r diweddar Capten Richard Williams (Cercassian) a chwaer i'r diweddar Capten Thomas Jones (Arizona).

Yr oedd yn bresennol yn yr angladd Mr a Mrs Roberts, Hendy (merch a mab yn nghyfraith); Mr. Owen Williams, Glasfryn (mab); y Parch a Mrs Richard Pritchard, Llantrisant, Mon; Mr a Mrs William Owen, Meillionydd Fawr; Mr. Owen Thomas, Deuglawdd; Miss Hughes, Deucoch; Mr a Mrs Owen Williams, Penystumllyn; Mr. Ellis Owen, Arlanfor, Abersoch; Mr. Owen Williams, Llanllyfan; Mr. David Griffiths, Hirwaen, Pwllheli.

Cafodd angladd tywysogaidd ac yr oedd yr holl ardal yn galaru o'i cholli.

Yr Herald Gymraeg 25/03/1919