PRIODAS.
Dydd Mercher, yn Nghapel y Graig, M.C., unwyd mewn glan briodas Miss Annie S. Williams, merch hynaf yr Henadur a Mrs. Abel Williams, Talafon, a Mr. R. W. Griffith (fferyllydd), Colwyn Bay, a mab i'r diweddar Robert Griffith a Mrs. Griffith, Gwynfryn, Abersoch.Yr oedd y pentref wedi ei wisgo yn hardd a banerau, a daeth cynulliad lluosog i'r capel i weled y seremoni. Gweinyddid ar yr achlysur gan y Parchn. D. Foulkes Roberts, Rhydbach, ac H. D. Lloyd, B.A., B. D. Gweithredai Misses Gwladys a Mary Williams (chwiorydd y briodferch) fel morwynion, a Mr. T. H. Williams, fferyllydd, Bangor, fel gwas. Rhoddwyd y briodferch ymaith gau ei thad.
Ar ôl y seremoni aeth llu o berthynas ac ewyllyswyr da i Talafon i fwynhau y wledd oedd wedi ei pharotoi. Yr oedd yr anrhegion yn lluosog a gwerthfawr iawn, ac yn cynnwys 175p. mewn arian-nodau.
Nid oes genym ond dymuno pob bendith a hapusrwydd iddynt yn eu byd newydd.