DIANGFA GYFYNG.
Derbyniodd yr Henadur Abel Williams, lythyr oddiwrth ei fab, Lance-Corporal Hywel Wyn Williams, ei fod wedi ei glwyfo yn ysgafn yn Ffrainc, ac yn gwella yn foddhaol mewn ysbyty.Yr oedd ef a dau swyddog yn llochesu mewn twll bychan a daeth ffrwydbelen yno gan ladd un swyddog ac anafu'r llall yn ddifrifol tra y diangodd Williams gyda chlwyfau ysgafn.
Boed adferiad buan iddo.