PRIODAS.
Boreu Llun, yn Eglwys St. Maelrhys, cymerodd priodas ddiddorol le, pryd yr unwyd Mr. John E. Jones, y Nant, gyda Miss Maggie Jones, Bwlch, Llanengan.Gweinyddwyd y seremoni gan y Parch. T. E. Owen, Aberdaron. Gwasnaethwyd, ar y briodasferch gan Miss Evans, Ty Cerrig, Llanengan, ac ar y priodfab gan Mr. Morris G. Evans, Penarfynydd.
Wedi'r seremoni aeth y cwmni i Bwllheli, lle'r oedd y wledd briodasol wedi ei pharatoi.
Bydded pob llwyddiant a hapusrwydd i Mr. a Mrs. Jones yn eu bywyd newydd.